Dyddiad y cyfarfod: |
12/10/2022 |
Lleoliad: |
Microsoft Teams |
YN BRESENNOL:
Enw: |
Teitl: |
Laura Anne Jones AS |
Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Chwaraeon |
Matthew Williams |
Pennaeth Polisi a Chyfathrebu Cymdeithas Chwaraeon Cymru
Ysgrifennydd y GTB ar Chwaraeon |
Sam Houldsworth |
Clwb pêl-droed Dinas Casnewydd |
Craig Leonard |
Clwb pêl-droed Corinthians Casnewydd |
Natalie Pelders |
Clwb pêl-droed merched Rangers y Mwmbwls |
Tom Giffard AS |
Aelod rhanbarthol dros Dde Orllewin Cymru |
Huw Irranca-Davies AS |
|
Alun Davies AS |
|
Gareth Llewellyn |
Staff Cymorth Aelod |
Stewart Owadally |
|
James Evans AS |
|
Lee Parsons |
Staff Cymorth Aelod |
Heledd Fychan AS |
|
Emilia Douglass |
Staff Cymorth Aelod |
YMDDIHEURIADAU:
Enw: |
|
|
|
|
|
|
|
CRYNODEB O’R CYFARFOD:
Laura Anne Jones (LAJ): Croesawodd Laura y grŵp, gan amlinellu nad yw’r cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru wedi cael cyllid ar raddfa fawr am flynyddoedd. Croesawodd y siaradwr cyntaf, Natalie.
Natalie Pelders (NP): Hyfforddwr gwirfoddol, cadeirydd adran merched Rangers y Mwmbwls, adran ferched mwyaf Cymru.
Amlinellodd faterion o ran: - Yr her i ddod o hyd i wirfoddolwyr - Yr her i ddod o hyd i hyfforddwyr - Cyfleusterau: Y Mwmbwls yw’r clwb mwyaf yng Nghymru. Caiff y cae ei rannu â gweithgareddau criced ac mae’n barc cyhoeddus, sy’n gallu achosi problemau o ran archebu lle. - Cyfleusterau: Cyn lochesi rhyfel o 1940 yw’r ystafelloedd newid, ac mae’r cyfleusterau newid wedi aros yr un fath ers hynny. Mae ystafell newid fechan a thoiled i ferched ar gael ond nid yw'n ddigon mawr, felly prin iawn yw’r defnydd a wneir ohoni. Camau i’w cymryd: - 'The Huddle', rhaglen i gyflwyno pêl-droed i ferched rhwng 5 ac 8 oed, rhaglen 6 wythnos o hyd. Cofrestrodd 50 o ferched ac ymunodd 70% ohonynt â'r clwb wedyn.
Tom Giffard AS (TG) Pa fath o bwysau sydd ar blant sy'n cymryd rhan mewn sawl math o chwaraeon? A oes gwrthdaro rhwng gwahanol gampau?
NP: Mae’r merched yn dweud y byddent yn hoffi ymuno ond mae ganddynt weithgareddau eraill sy'n cael blaenoriaeth yn aml. Mae gwrthdaro yn digwydd o ran y meysydd chwarae hefyd.
LAJ: Yn cyflwyno Craig o Corinthians Casnewydd.
Craig Leonard (CL): Amlinellodd rai materion craidd: - Cyfleusterau: Nid yw ansawdd y meysydd chwarae yn cyfateb i'r ffioedd mawr a delir i awdurdodau lleol - Cyfleusterau: Mae e wedi ceisio cysylltu ag ALl o ran pryderon am les chwaraewyr oherwydd y tyllau ar y cae ond heb gael ymateb. Mae’n pryderu y gallai'r risg hwn i iechyd atal pobl rhag chwarae yn y dyfodol. Mae'r clwb hefyd wedi cael e-byst gan rieni pryderus.
LAJ: O ran misoedd y gaeaf, sut olwg sydd ar y caeau?
CL: Nid oes modd chwarae ar 2/4 o'r caeau.
LAJ: Yn symud ymlaen at Sam, o glwb pêl-droed Dinas Casnewydd.
Sam Houldsworth (SH): Mae biliau ynni wedi cynyddu'n sylweddol, mae’n costio mwy i gael swyddogion i’r gemau, mae costau petrol wedi codi gan ei gwneud hi'n anodd teithio i gemau. Ochr yn ochr â hyn, mae’r cit yn fater o bryder, o ran ei brynu a’i olchi.
Mae wedi gofyn am gyngor gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a dywedwyd wrtho i ddod â’r tîm dan 13 a thîm y merched i ben.
Mae nawdd yn anos i’w gael nawr mewn byd ôl-bandemig, ochr yn ochr â diffyg cefnogaeth gan gorff llywodraethu CBDC a Chyngor Casnewydd. Mae problem enfawr o ran y pyramid arian, nid yw'n treiddio i lawr fel y mae’n digwydd ym myd rygbi. O ganlyniad, mae pêl-droed ar lawr gwlad yn marw.
Mae'r cyngor yn codi prisiau i logi caeau chwarae ac yn gostwng safonau gofal y clwb. Mae fandaliaeth yn digwydd yn y clybiau ac nid yw’n cael ei lanhau.
Yng Nghasnewydd, nid oes digon o gaeau 3G, ac, o ran y rhai sydd ar gae, nid ydynt oes rheolaeth arnynt. Nid yw Casnewydd Fyw yn dyrannu archebion i logi cyfleusterau yn gyfartal.
|